Oes gennych chi unrhyw gwestiynnau neu phroblemau yswiriant?
CROESO i FFORWM newydd TARIAN sydd ar eich cyfer CHI. CHI fydd yn dewis y pynciau trafod a bydd Tarian yn ymateb i’ch sylwadau, cynnig ateb i’ch cwestiwn a chynnig cynghori diduedd.
Er enghraifft ..
Mae cwmniau yswiriant yn codi prisiau drud i ychwenaegu gyrrwyr ifanc i’w polisiau yswiriant ceir ac ddim yn rhoi ystyriaeth i’r ffaith mai ychydig o ddefnydd bydd y gyrrwr ifanc yn ei gael, a bydd y defnydd hwnnw wedi eich oruchwilio gan yrrwr profiadol. PAM?
Holwch Nawr
melfyn said:
Mae fy mab i yn 17 oed ac yn dysgu gyrru. Ffoniais i Direct Line er mwyn cael cwot ar gyfer ei ychwanegu ar y polisi, ac roedd yn rhywbeth fel £500 y mis yn ychwanegol. Oes ‘na ffordd o gwmpas hyn fel bod modd arbed ychydig o arian?
gwilym66 said:
Mae pob tro orau i edrych ar geir bach gyda injan fach petrol neu ddisel. Hefyd mae disgownt ar bolisiau yswiriant i gael am oed ac nifer o filltyroedd sydd yn cael ei yrru pob flwyddyn. Ond wedi dweud hynny hogyn 17 oed mae’r premiwm am fod yn uchel.
Mae gennym bolisi sydd ar gael i yrrwr ifanc tra yn dysgu dreifio. Polisiau 1,2 neu 3 mis gyda’r costau rhwng £90 a £250.
howgetpesda said:
Mae fy mab yn 17 yn Mis Medi ac yn awyddus i ddysgu dreifio – oes unrhyw geir yn rhatach i’w yswirio nac eraill, er enghraifft wedi clywed for Corsa yn ddrud oherywdd “boy racers”?